.jpg)
Trefnodd The Festivals Company gystadleuaeth ar ran S4C i ddod o hyd i 5 gwneuthurwr ffilm ifanc i greu ffilmiau byr sy'n adlewyrchu'r Gymru gyfoes - ei phobl, ei chymunedau, ei hardaloedd a'i digwyddiadau.
Yn dilyn proses agored, dewiswyd 5 ymgeisydd i greu ffilmiau Cymraeg 3 munud o hyd. Cafodd y ffilmiau eu dangos am y tro cyntaf yn ystod Ffresh 2012 yn Ysgol Ffilm Casnewydd, rhwng yr 8fed a'r 10fed o Chwefror 2012, a'u darlledu ar S4C am 19:55 ar nos Iau dros y pedair wythnos nesaf yn rhan o ymgyrch Calon Cenedl S4C.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, Garffild Lloyd Lewis, "Dw i wrth fy modd bod S4C yn gallu meithrin talent ffilm newydd trwy weithio gyda Ffresh ar y cynllun arloesol hwn. Mae'r gystadleuaeth hon yn cyd-fynd yn berffaith â'n hymgyrch ni, Calon Cenedl, sy'n pwysleisio rôl S4C, nid yn unig fel darlledwr ar y sgrin ond fel sefydliad sydd wrth galon popeth sy'n digwydd yn ein cymunedau ledled Cymru. "
"Roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd gan S4C i ddarparu'r cynllun ffilm fer newydd cyffrous hwn, a oedd yn gyfle i wneuthurwyr ffilm ifainc gael dangos eu gwaith gan ddarlledwr cenedlaethol. Gwnaeth yr holl wneuthurwyr ffilm waith gwych ac rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â'r fath gorff amrywiol a safonol o waith," ychwanegodd James Nee o The Festivals Company.
Derbyniodd y pum ymgeisydd llwyddiannus arweiniad gan The Festivals Company trwy gydol y broses gynhyrchu ynghyd â gwobrau ariannol o £400. Saethwyd pob un o'r ffilmiau ar HD ac fe'u cynhyrchwyd i safonau'r diwydiant darlledu proffesiynol.
Y Bobol yw’r Eglwys from Ffresh on Vimeo.
Y Bobol yw’r Eglwys
Cyfarwyddwr: Catrin Doyle
Cerddoriaeth: Côr Meibion Pendyrys
Cyfarwyddwyr Ffotograffiaeth: Anne Siegel a Stephen Hanks
Tawel For from Ffresh on Vimeo.
Tawel Môr
Cyfarwyddwr: Rhiannon Tate
Cynhyrchwyr: Rhiannon Tate & Eleri Griffiths
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Rhiannon Tate
Creithiau from Ffresh on Vimeo.
Creithiau
Cyfarwyddwr: Chris McGaughey
Adroddwr: Nicholas McGaughey
Cynhyrchwyr: Chris McGaughey & Robert Godwin
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Chris McGaughey & Robert Godwin
Sain: Bryn Duffy
4C
Actorion: Emyr Wyn Jones, Cari Barley, Tom Mumford
Ysgrifennu, Cyfarwyddo a Chynhyrchu Richard Starkey & Christian Britten
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Josh Bennett
Llwybr Ffilm Eryri from Ffresh on Vimeo.
Ffilm Fer Eryri
Ysgrifennu a Chyfarwyddo: Victoria Louise Fellows
Ysgrifennu: Victoria Louise Fellows
Cynhyrchydd: Stuart Murray Matthew
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Tim Walton