Gwobr Ffilm Beijing

15 November 2011

Boys Village yn ennill yng Ngŵyl Ffilm Beijing

Ffilm fer a gynhyrchwyd gan The Festivals Company yn ennill gwobr y gynulleidfa.

Mae Boys' Village, a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Till Kleinert ac a gynhyrchwyd gan The Festivals Company, wedi ennill ei gwobr ryngwladol gyntaf ar ôl cipio gwobr y gynulleidfa yn 10fed Gŵyl Academi Ffilm Ryngwladol Beijing.

Y ffilm yw'r 2il ffilm fer a gynhyrchwyd gan The Festivals Company yn rhan o Wobr Iris. Cyflwynir Gwobr Iris yn flynyddol, yn ystod Gŵyl Gwobr Iris, ac mae hi'n galluogi'r gwneuthurwr ffilm buddugol i wneud ffilm fer arall gyda chyllideb o ryw £25,000.

"Rydym yn falch iawn dros Till a'r cast a'r criw anhygoel a weithiodd ar y prosiect hwn. Mae gwneud ffilmiau yn broses gydweithredol ond pan fod gennych chi dalent fel Till wrth y llyw, ei weledigaeth a'i ddoniau adrodd stori, r'ych chi'n siŵr o gael rhywbeth arbennig iawn," meddai Berwyn Rowlands o The Festivals Company.

"Cafodd y ffilm dderbyniad gwresog ar ôl ei dangosiad cyntaf yng Nghaerdydd - ond roedd hynny i'w ddisgwyl gan gynulleidfa leol. Y prawf go iawn yw gweld ymatebion cynulleidfaoedd rhyngwladol i'r gwaith. Mae ennill gwobr y gynulleidfa yn Beijing yn ddechrau gwych i Boys Village wrth i'r ffilm gychwyn ar ei thaith o amgylch y gwyliau ffilm rhyngwladol," ychwanegodd.

Mae The Festivals Company yn gyfrifol am drefnu a rheoli dangosiadau mewn gwyliau ffilm grant@thefestivalscompany.co.uk