Berwyn Rowlands

Mae Berwyn yn Gymro Rhyngwladol a chanddo 25 mlynedd o brofiad mewn ffilm a digwyddiadau, ynghyd â record anrhydeddus o weithredu gweledigaethau artistig a strategol.

Yn 2006, sefydlodd The Festivals Company. Mae gan y cwmni nifer o brosiectau uchel eu proffil gan gynnwys Gŵyl Gwobr Iris - y wobr fwyaf yn y byd am ffilm fer lesbiaidd a hoyw - a Ffresh, gŵyl delwedd symudol fwyaf a hynaf y DG i fyfyrwyr.

Roedd Berwyn yn Brif Weithredwr Sgrin Cymru Wales rhwng 1997 a 2006 ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn gyfrifol am sefydlu Ffresh, Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru, Comisiwn Sgrin Cymru ac Archif Cenedlaethol Sgrin a Sain Cymru (ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Mae Berwyn wedi cynhyrchu cynnwys a ddarlledwyd ar y BBC, ITV ac S4C, gan gynnwys Llety Piod (DG) gyda Bill Nighy, Colonial Gods (Cyd-gynhyrchiad UDA/DG ) a Boys' Village (Cyd-gynhyrchiad Yr Almaen/DG). Mae ei waith fel cynhyrchodd radio yn cynnwys Wales: Land of Film ar gyfer BBC Radio 2.

Fe'i gwahoddir yn rheolaidd i siarad am ffilm a hawliau hoyw ar y teledu a'r radio. Y mae hefyd wedi gwasanaethu ar reithgorau gwobrau ffilm ac yn siarad am gynhyrchu rhaglenni a digwyddiadau mewn prifysgolion, cynadleddau a gwyliau. Cyfrannodd at Symposiwm Ewropeaidd y Ffilm Fer, Cork, ac Uwchgynhadledd Gwyliau Ffilm Rhyngwladol, Efrog Newydd.